Open
Dysgu Seiliedig ar Waith 2015 i 2019
Descriptions
Diben yr hysbysiad hwn yw hysbysu’r farchnad am y cyfle tendro arfaethedig sydd i ddod cyn bo hir; a gwahodd cyflenwyr sydd â diddordeb i ddigwyddiad Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw. Nod y digwyddiad yw cynorthwyo â’r broses o asesu ymateb y farchnad i ofyniad a dull caffael arfaethedig Llywodraeth Cymru cyn ei lansiad swyddogol.Mae gan Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) Llywodraeth Cymru amrywiaeth o raglenni sydd â’r nod o gynorthwyo dysgwyr yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae’n cynorthwyo oddeutu 60,000 o unigolion y flwyddyn ar ei rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith, gan gynnwys ei rhaglen Twf Swyddi Cymru.Mae’r Adran yn bwriadu lansio proses dendro i sefydlu ei rhwydwaith newydd o ddarparwyr hyfforddiant am hyd at bedair blynedd o fis Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2019. Bydd y rhwydwaith hwn yn cyflenwi darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith ar ran Llywodraeth Cymru o fis Ebrill 2015 ymlaen. Disgwylir y bydd y rhaglenni hyn yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Ein bwriad yw y byddwn yn cyhoeddi Holiadur Cyn-gymhwyso trwy GwerthiGymru fel rhan o broses dendro OJEU Agored rhan B yn y dyfodol agos.Dyma’r rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith allweddol y disgwyliwn iddynt gael eu cynnwys yn y tendr:- Prentisiaethau, sy’n gwella sgiliau gweithwyr i ddiwallu anghenion economi Cymru heddiw ac yn y dyfodol;- Hyfforddeiaethau, sy’n rhoi sgiliau personol a sgiliau cyflogadwyedd a chymwysterau allweddol i ddysgwyr 16-19 oed i’w galluogi i symud ymlaen yn effeithiol i ddysgu pellach neu i’r farchnad lafur;- Twf Swyddi Cymru, sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed sy’n barod am waith wneud gwaith am dâl, sy’n arwain at gyflogaeth neu hunangyflogaeth.Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o egwyddorion allweddol i lywio’r ffordd y bydd yn dyrannu gwaith ar ôl y broses dendro, ac maent fel a ganlyn:- Y prif nod yw y dylai’r dyraniadau wneud yn siwr bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau darpariaeth o’r ansawdd gorau posibl i ddysgwyr yn yr holl raglenni, ardaloedd daearyddol a sectorau galwedigaethol a ddymunir;- Dylai’r dyraniadau sicrhau y gall dysgwyr sy’n parhau barhau â’u cwrs dysgu gyda chyn lleied o darfu ag sy’n bosibl, lle bynnag y bo modd;- Dylai’r dyraniadau sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru’n mynd yn rhy ddibynnol ar un darparwr am y ddarpariaeth mewn rhaglen, ardal ddaearyddol neu sector penodol;- Dylai’r dyraniadau sicrhau bod contractau Llywodraeth Cymru’n gost effeithiol i’w rheoli, ac osgoi dyfarnu contractau o werth bach lle bo modd;- Dylai’r dyraniadau sicrhau bod cyllid yn cael ei gyfeirio at ardaloedd patrwm y gwasanaethau cyhoeddus lle bo modd, ond dylent sicrhau y gallwn flaenoriaethu y tu mewn i’r rhain i gyfeirio cyllid Ewropeaidd ychwanegol ac i alluogi ymyriadau targededig ar gyfer y rhaglenni cyflogadwyedd.Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n gosod, ac yn bwriadu parhau i osod, isafswm dyraniadau blynyddol i gontractwyr i ddarparu naill ai Prentisiaethau neu Hyfforddeiaethau, neu gyfuniad ohonynt, i ddysgwyr newydd. Yr isafsymiau dyraniadau blynyddol sydd wedi’u gosod ar y dyraniad ar gyfer dysgwyr newydd yw £350,000 i gontractwyr Prentisiaethau; £650,000 i gontractwyr Hyfforddeiaethau; a £500,000 i gontractwyr sy’n darparu Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau. Disgwylir i’r rhain aros o gwmpas y lefel hon. (Mae’r gwahaniaeth rhwng y rhaglenni yn cydnabod y gwahaniaethau yn hyd yr arhosiad ar y gwahanol raglenni.)Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyflwyno uchafswm dyraniadau blynyddol o £4,000,000 i gontractwyr i ddarparu i brentisiaid newydd ar gyfer y cyfnod 2015 – 2019. Hefyd, rydym yn bwriadu dyrannu darpariaeth newydd ar gyfer yr holl raglenni i ddau ddarparwr ym mhob rhanbarth lle bo modd (ar gyfer Prentisiaethau, dau ddarparwr ar gyfer pob rhanbarth a sector galwedigaethol). Mae’r rhanbarthau’n debyg o fod fel a ganlyn: rhanbarthau patrwm y gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y rhaglen Prentisiaethau, ac ardaloedd rhanbarthol y rhwydweithiau 14-19 ar gyfer y rhaglenni Hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru.Trwy’r cytundebau fframwaith a sefydlir o’r ymarfer tendro hwn mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ceisio, os oes angen yn ystod y cyfnod 2015 – 2019, cyflwyno rhaglenni newydd i ddarparu profiad gwaith, hyfforddiant neu gymorth i’r rheiny o oedran gweithio yng Nghymru naill ai’n llwyr neu’n rhannol yn y gweithle.Bydd y broses dendro’n caniatáu ar gyfer dethol darparwyr hyfforddiant ar sail darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith o ansawdd da i ddysgwyr a chyflogwyr (mae’r pris yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru a bydd contractau yn y dyfodol yn cael eu dyrannu ar sail methodoleg dyrannu Dysgu Seiliedig ar Waith Llywodraeth Cymru). Bydd y manylion llawn yn y dogfennau tendro ffurfiol pan gânt eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru yng Ngwanwyn 2014.Bwriedir i’r broses dendro yn y dyfodol gael ei chynnal ar www.etenderwales.bravosolution.co.uk – gwefan sy’n darparu’r cyfleuster ar gyfer tendro electronig sydd ar gael i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i gontractwyr gofrestru eu manylion ar www.etenderwales.bravosolution.co.uk wrth dendro. Fodd bynnag, rhoddir manylion llawn yn yr hysbysiad contract ar GwerthwchiGymru pan fydd gofyniad y contract yn cael ei hysbysebu. Disgwylir i’r Holiadur Cyn-gymhwyso gael ei gyhoeddi yn hydref 2013. Bwriedir i’r Gwahoddiad i Dendro fod yn agored i’r rheiny fydd wedi llwyddo yn yr Holiadur Cyn-gymhwyso yng ngwanwyn 2014.Cyn i’r tendr gael ei hysbysebu gwahoddir pob parti sydd â diddordeb i ddigwyddiad Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw i drafod gofyniad a dull caffael arfaethedig Llywodraeth Cymru. I gael manylion y digwyddiadau, neu i gofrestru, dilynwch y ddolen isod:http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/allsectorpolicies/ourevents/wbl-pin-events/?skip=1&lang=cyGellir gweld y cwestiynau cyffredin a gwybodaeth am Ddysgu Seiliedig ar Waith ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.wales.gov.uk/wbl - caiff hon ei diweddaru ar ôl y digwyddiadau ac yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi hysbysiad contract llawn. Cofiwch edrych ar y wefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf.NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.uk/Search/Search_Switch.aspx?ID=845 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
80212000 - Vocational secondary education services
80530000 - Vocational training services
80000000 - Education and training services
80500000 - Training services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors