Closed
Fframwaith i ddarparu cefnogaeth ar gyfer ffrydiau gwaith datgarboneiddio, ymaddasu newid hinsawdd a
Descriptions
Fframwaith i ddarparu cefnogaeth ar gyfer ffrydiau gwaith datgarboneiddio, ymaddasu newid hinsawdd a gwydnwch, gadael yr UE, Covid-19 ac Adferiad Gwyrdd.. Cyhoeddir y briff ymgynghoriaeth hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau capasiti allanol i gynorthwyo i gyflawni ei ffrydiau gwaith datgarboneiddio, ymaddasu a lleddfu newid hinsawdd, gadael yr UE, Covid-19 ac Adferiad Gwyrdd i Lywodraeth Leol Cymru. Mae’r rhain yn ffrydiau gwaith ar wahân, fodd bynnag gallant rannu elfennau cyffredin. Ar y cyd, cyfeirir at y ffrydiau gwaith hyn fel y Rhaglen Cefnogi Pontio ac Adferiad (RhCPA).Nid yw CLlLC yn rhagweld y bydd gan bob cynigydd arbenigedd ar draws pob un o’r ffrydiau gwaith uchod ac felly croesawir ceisiadau ar gyfer pob un, neu sawl un, neu un o’r ffrydiau gwaith.Bydd angen i’r cynigydd(wyr) llwyddiannus weithredu ar fframwaith, gan gynorthwyo pan fod angen yn y ffyrdd canlynol:Rhannu cudd-wybodaeth - adnabod ac, yn amodol ar gytundeb, datblygu a darparu deunyddiau trwy ystod o ddulliau priodol o ymgysylltu (e.e. gweithdai), a fydd o fudd i bob awdurdod lleol wrth gynllunio parhad busnes, datgarboneiddio, ac adferiad gwyrdd.Comisiynau ymchwil byr, penodol – ymateb wrth i faterion penodol gael eu codi, i ddatblygu deunydd o beth sy’n gweithio’n ymarferol, gydag astudiaethau achos fel bo'n briodol, a ellir eu rhannu'n sydyn gyda bob awdurdod lleol.Mesur canlyniadau/tystiolaeth – mae’n bwysig iawn casglu tystiolaeth i ddangos newidiadau trefniadol ac ymddygiad a wneir o ganlyniad i wybodaeth, cymorth a chefnogaeth a ddarperir. Dylai tendrau adnabod, mewn termau cyffredinol, sut byddai adborth yn cael ei gasglu a sut fyddai ‘newid’ yn cael ei fesur a’i asesu.Gwasanaeth dwyieithog: sicrhau fod deunyddiau ar gael yn ddwyieithog yn unol â pholisïau CLlLC.Bydd y nodau hyn yn destun trafodaeth gyda LlC, awdurdodau lleol a'r ymgynghorydd a benodir trwy gydol y cyfnod, gyda diwygiadau fel bo'n briodol i gymryd cyfrif o amgylchiadau sy'n newid, syniadau newydd etc.NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=110003 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
90710000 - Environmental management
9300000 - Electricity, heating, solar and nuclear energy
79410000 - Business and management consultancy services
90713000 - Environmental issues consultancy services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors