Open
Gwasanaethau Arbenigwyr Pwnc mewn lechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu, Datblydgiad a Cha
Descriptions
CefndirSefydlwyd Cymwysterau Cymru drwy Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n annibynnol ar y llywodraeth, ac yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.Rydym yn awyddus i benodi arbenigwyr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant dan gontract am wasanaethau i'n helpu gan ddefnyddio eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u profiad o addysgu mewn ysgol / Addysg Bellach (AB)/ Addysg Uwch (AU) neu yn y gweithle, a/neu asesu, er mwyn ein helpu yn ein proses gymeradwyo drwy adolygu deunyddiau cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gyflwynwyd gan y Consortiwm (City & Guilds a CBAC).Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod y cymwysterau yn cydymffurfio â gofynion Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau Cymru, a bod cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymol dysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru, gan ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau yng Nghymru.Cynhelir digwyddiad yn swyddfa Cymwysterau Cymru yng Nghasnewydd dydd Mawrth 21 Tachwedd 2017, a'i nod fydd briffio ymgeiswyr posibl ynglyn â'r adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rôl yr arbenigwr a'r broses gymeradwyo. Bydd gwybodaeth am y digwyddiad hwn ar wefan Cymwysterau Cymru ym mis Hydref 2017. Caiff y digwyddiad ei recordio a gellir ei wylio ar-lein.GofynionRydym wrthi'n chwilio am arbenigwyr i gwmpasu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a hefyd y gyfres o gymwysterau Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant. Efallai y bydd unigolion am wneud cais am un cymhwyster neu fwy:Iechyd a Gofal Cymdeithasol:Lefel 1/2:•Cyflwyniad i Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant - Egwyddorion a Chyd-destunau (cyn-16) - cymhwyster TGAU newyddLefel 2:•Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Craidd•Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Oedolion•Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destunau (oedolion, plant a phobl ifanc)Lefel 3:•Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Damcaniaethau (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)•Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Cyd-destunau ac Ymarfer (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)•Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Plant a Phobl Ifanc•Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – OedolionLefel 4:•Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Llwybrau Arbenigol•Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion, Damcaniaethau a Chyd-destunauLefel 5:•Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol – YmarferGofal Plant:Lefel 1/2:•Cyflwyniad i Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant - Egwyddorion a Chyd-destunau (cyn-16) - cymhwyster TGAU newyddLefel 2:•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant: Craidd•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – Ymarfer•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – Egwyddorion a Chyd-destunauLefel 3:•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – Cyd-destunau ac Ymarfer•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – Egwyddorion a Damcaniaethau•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – YmarferLefel 4:•Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – Egwyddorion, Damcaniaethau a Chyd-destunau•Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – Llwybrau ArbenigolLefel 5:•Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu, Datblygiad a Chwarae Plant – YmarferAmserlenni gwaith a ragwelir ar gyfer adolygu pob cymhwysterGweithgareddNifer y diwrnodau fel arferHyfforddiant1Adolygiadau manylebau a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol yn erbyn rhesymeg a Meini Prawf Cymeradwyo (gartref) ac ysgrifennu adroddiad ar gyfer un cymhwyster2Cyfarfod panel wyneb yn wyneb1Y ffi ar gyfer y gwaith uchod yw £300 y diwrnod yn cynnwys TAW.Efallai y bydd rhagor o waith ar gael fel rhan o'r broses gymeradwyo a all gynnwys mynd i gyfarfodydd gyda'r Consortiwm, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn ogystal â rhoi adborth ychwanegol dros y ffôn neu drwy e-bost i gynrychiolwyr Cymwysterau Cymru yn ôl yr angen.NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=72089.The buyer has indicated that it will accept electronic responses to this notice via the Postbox facility. A user guide is available at http://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.Suppliers are advised to allow adequate time for uploading documents and to dispatch the electronic response well in advance of the closing time to avoid any last minute problems.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
80200000 - Secondary education services
80400000 - Adult and other education services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors