Awarded

Gwerthuso cynllun Bro360

Descriptions

Cefndir y prosiect.Cynllun peilot i arbrofi gyda datblygu rhwydwaith cenedlaethol o wefannau cymunedol Cymraeg yw hwn. Bwriedir arloesi gyda thechnoleg gwybodaeth i gryfhau bywyd cymunedol ac economi ardaloedd gwledig a hynny trwy lwyfannau gwybodaeth a busnes lleol.Mae’r cynllun yn rhedeg tan fis Ebrill 2022 ac mae’r gwaith paratoi a recriwtio etc. wedi dechrau. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifri ym mis Mawrth 2019, i gyd-daro â dechrau’r cytundeb hwn.Bydd y prosiect wedi ei ganoli yn swyddfeydd presennol Golwg yn Llanbedr Pont Steffan a Chaernarfon ac mewn swyddfa newydd sy’n cael ei hagor yn fuan, yn Aberystwyth.Bydd y prosiect yn gweithio gyda chlystyrau o gymunedau, gan gynnwys papurau bro, gan ddechrau mewn dwy ardal benodol ac wedyn ymestyn i ardaloedd ehangach gan greu model y bydd modd ei gymhwyso a’i ledu ar draws Cymru gyfan. Bydd y gwaith gyda’r ddau glwstwr craidd yn datblygu modelau a phatrymau gweithio; tua diwedd y prosiect bydd modd ymestyn y rhain, gam wrth gam.Bydd y cynllun yn cyflogi ysgogwyr (animateurs) yn benodol i weithio gyda’r rhanddeiliaid a’u gwaith hwy’n cael eu cefnogi gan arbenigedd proffesiynol; yn eu plith rhai o staff allweddol Golwg a Golwg360.Bydd y prif waith yn digwydd i ddechrau gyda dau glwstwr o gymunedau a phapurau bro, un yng ngogledd Ceredigion a’r llall yn Arfon.Yn y flwyddyn olaf, anelir at ledaenu gwybodaeth a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r casgliadau gyda golwg ar sefydlu cynllun busnes ar gyfer rhaglen genedlaethol tymor hirMae'r prosiect wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.Am fwy o fanylion ewch i:Cynllun newydd Golwg i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro ...https://golwg360.cymru/.../529917-cynllun-newydd-golwg-ddatblyAmcan y tenderI werthuso perfformiad y prosiect gam wrth gam, a dichonolrwydd rhaglen tymor hir y cynllun peilot. Y nod yw dysgu gwersi yn ystod oes y prosiect ac ar gyfer y broses o’i ehangu. Bydd y gwaith yn gwerthuso rhediad gweithrediad y cynllun. Yn ogystal, bydd y gwaith yn adrodd yn flynyddol ar ddatblygiad elfennau o’r prosiect yn unol â chanlyniadau ac allbynnau gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r cwestiynau canlynol:•Y broses o drafod gyda’r papurau bro ac ysgogi criwiau newydd i gynnal y gwaith.•Y broses o gysylltu gyda chyfranwyr posib megis, mudiadau, clybiau, cymdeithasau, cyrff, unigolion a busnesau .•Trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant gan gynnwys yr hyfforddiant ei hun.•Y broses o gasglu syniadau ar gyfer datblygu’r gwefannau a'i gweithredu.•Y mecanwaith o gael pobl i gyfrannu i elfennau o’r prosiect.•Yr ymwneud â’r cysylltiad gyda Golwg360 gan y gwefannau wrth gyfnewid newyddion a straeon. Hefyd yn yr un modd, y cyswllt rhwng Golwg360 a’r gwefannau.•Y cydweithrediad a’r bartneriaeth rhwng Golwg 360 a’r gwefannau bro wrth ddatblygu busnes gan gynnwys y model busnes a rhaglen tymor hir y prosiect.Y prif ganlyniadau fyddai adroddiadau ar berfformiad y prosiect a dichonolrwydd cynllun tymor hirBydd yr adroddiad terfynol yn gyfraniad i ddatblygwyr polisi i ddarganfod meysydd o ymarfer da mewn sawl maes ynghyd â rhoi adborth i adolygiad ehangach y Rhaglen Datblygu Gwledig.Bydd angen i’r adroddiad terfynol roi sylw i effaith y prosiect ar feysydd sy’n cynnwys:(i) cydlynu cymunedol, gweithgarwch a gwytnwch cymunedol;(ii) defnydd arloesol o dechnoleg gwybodaeth mewn ardaloedd gwledig;(iii) cynhwysiant cymdeithasol;(iv) y diwylliant Cymraeg mewn cymunedau gwledig;(v) yr economi gwledig;(vi) creu swyddi a sgiliau busnes;(vii) parhad cyfryngau Cymraeg lleol a chenedlaethol;Sut mae ymatebNi ddylai’r ymateb fod yn fwy nag wyth tudalen gan gynnwys:•Cynigion ar sut i fynd ati a rhaglen sydd yn unol â’r amserlen•Profiad ac arbenigedd y tîm o ymgynghorwyr•Manylion costauByddwn yn barod i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gyffredinol mewn atodiad. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol, mi fyddwn yn cysylltu.Ymholiadau a gofynion y cyflwyniadAm unrhyw ymholiadau ynglŷn â chyflwyno cynnig, cysylltwch â Dylan Iorwerth trwy e-bost: dylaniorwerth@golwg.comMae’r gallu i weithio trwy’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y cytundeb hwn.The ability to work through the medium of Welsh is necessary for this contract.

Timeline

Published Date :

12th Aug 2019 6 years ago

Deadline :

N/A

Tender Awarded :

1 Supplier

Awarded date :

N/A

Contract Start :

N/A

Contract End :

N/A

Tender Regions

Keywords

IT consulting

software development

web services

network support

system integration

IT infrastructure management

digital transformation

cloud services

cybersecurity support

application maintenance

helpdesk services

technical support

software customization

IT outsourcing

R&D services

innovation consultancy

feasibility studies

technology development

scientific advisory

experimental design

product innovation

applied research

industrial consultancy

development support

Tender Lot Details

2 Tender Lots

Let’s Get you Started ✍

Get to see all tender details more briefly

Already have an account ?

Workflows

Status :

Awarded

Procedure :

N/A

Suitable for SME :

N/A

Nationwide :

No

Assign to :

Tender Progress :

0%

Details

Notice Type :

Tender

Tender Identifier :

IT-378-246-T: 2024 - 001

Tenderbase ID :

310724019

Low Value :

£100K

High Value :

£1000K

Buyer Information

Address :

Liverpool Merseyside , Merseyside , L13 0BQ

Website :

N/A

Procurement contact

Name :

Tina Smith

Phone :

0151 252 3243

Email :

tina.smith@shared-ed.ac.uk

Possible Competitors

1 Possible Competitors