Awarded
Marchnata Cynllun Dysgu o Bell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Descriptions
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynllunio a chefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar sail strategol ar draws prifysgolion Cymru. Trwy gydweithio gyda’r prifysgolion mae’r Coleg yn eu galluogi i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Yn benodol, mae’n noddi swyddi darlithio cyfrwng Cymraeg, yn cefnogi prosiectau i greu darpariaeth ac adnoddau newydd, ac yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch trwy’r Gymraeg.Mae’r Cynllun Dysgu o Bell yn un o brosiectau strategol cenedlaethol y Coleg Cymraeg. Caiff y prosiect ei arwain ar ran y Coleg gan Brifysgol Aberystwyth a phenodwyd Dr Owen Thomas yn gydlynydd y Cynllun yn 2012.Mae’r Cynllun Dysgu o Bell yn cynnwys dwy dystysgrif ar-lein: sef Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) yn y Dyniaethau a TAU mewn Gwyddorau Cymdeithasol. Mae TAU yn cyfateb i’r hyn y byddai myfyriwr ar ôl blwyddyn o astudio yn y brifysgol ar gampws wedi’i gyflawni. Mae’r ddwy dystysgrif yn cynnwys cyrsiau (a elwir yn fodiwlau) o bob math drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n gynllun hyblyg iawn.Mae arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth ac o Brifysgol Bangor yn dysgu’r modiwlau hyn, ac yn cynnig pob cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr. Bydd gan bob myfyriwr hefyd diwtor personol i’w bugeilio ar hyd y daith.Gwahoddir ceisiadau gan gwmni / unigolion i ymgymryd â gwaith hyrwyddo a marchnata’r Cynllun am y cyfnod hyd at 1 Hydref 2015 mewn cydweithrediad a rheolwr y prosiect, Dr Owen Thomas a Rheolwr Cyfathrebu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Elin Williams.Un o brif ddeilliannau’r prosiect penodol hwn fydd cynyddu’r nifer o fyfyrwyr sydd yn cofrestru i wneud y modiwlau.Bydd disgwyl i’r contractwyr lunio cynllun marchnata gweithredol sy’n amlinellu’n fanwl sut y byddent yn mynd ati i recriwtio myfyrwyr ar gyfer mis Medi 2015 (ac y gellid ei ail-adrodd yn y dyfodol.Ceir manylion llawn am y cynllun ac am y gwaith a ddisgwylir yn y Fanyleb. Cliciwch ar y tab 'Gwybodaeth Ychwanegol i gael mynediad at y Fanyleb lawn.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Tender Awarded :
Awarded date :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
80300000 - Higher education services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors