Awarded
Media Buying Services/Gwasanaethau Prynu Cyfryngau
Descriptions
Mae S4C, trwy’r broses dendro hon, yn dymuno penodi cwmni i gynghori, cynllunio, bwcio ac adolygu ymgyrchoedd yn y cyfryngau i Hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C.Enghreifftiau o’n hamcanion allweddol fyddai:i) Cynyddu lefel wylio’r gwylwyr o dan 45;ii) Cynyddu cyfran o’r gwylio gan siaradwyr Cymraeg yn ystod oriau brig;iii) Codi ymwybyddiaeth o arlwy raglenni/gwasanaethau newydd sydd ar gael ac annog pobl i’w treialu; a hefydiv) codi ymwybyddiaeth o’r brand.Dylai cwmniau allu dangos hanes llwyddiannus ym maes prynu cyfryngau yn ogystal â dealltwriaeth brofedig am gymru ac amgylchedd y cyfryngau yng Nghymru. Byddai profiad o farchnata a hyrwyddo ym myd teledu o fantais.Fel darlledwr ac felly perchennog cyfryngau, rydym yn amcanu cynyddu i’r eithaf y defnydd o’n hamser darlledu ni ein hunain trwy amserlenni promos rhaglenni mewn ffordd strategol. Mae gan yr adran nifer o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio i ymgysylltu a’n dilynwyr yn ogystal ag hyrwyddo’n fwy eang. Mae gwaith mewn perthynas â phromos a chyfryngau cymdeithasol yn cael ei wneud yn fewnol.Mae’r strategaeth marchnata bresennol yn rhoi digidol gyntaf. Mae defnydd cyfryngau eraill megis OOH, styntiau a digwyddiadau yn cael eu defnyddio er mwyn manteisio ar gyfieuon rannu ar-lein ac er mwyn creu diddordeb wasg, yn ogystal â sicrhau gweledigaeth y brand.Mae’n ofynnol gan S4C bod y tendrwr yn:•cynllunio a chynghori ynghlych ymgyrchoedd yn y cyfryngau yn ôl y briff gan S4C;•trafod cyfraddau ffafriol gyda pherchnogion cyfryngau;•bod yn gyfrifol ac yn atebol am gyfleu manylebau cywir a gofynion cyflenwi mewn modd eglur rhwng y perchnogion cyfryngau a staff S4C;•gwerthuso ymgyrchoedd;•diweddaru S4C ar ddatblygiadau a chyfleoedd hyrwyddo newydd yn y cyfryngau yng Nghymru;•gallu ymateb i amseroedd dirwyn byr a cheisiadau bwcio ar fyr rybudd; a•mynychu cyfarfodydd yn swyddfeydd S4C yng Nghaerdydd yn unol á phob cais.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Tender Awarded :
Awarded date :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
79340000 - Advertising and marketing services
79341000 - Advertising services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors