Open

System Cof Cyfieithu a System Rheoli Terminoleg i Lywodraeth Cymru

Descriptions

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru (GC) yn dymuno comisiynu system Cof Cyfieithu a Rheoli Terminoleg gadarn, sy'n gallu ymdopi â chynnydd mewn defnydd, i ddisodli ei system bresennol. Rhaid iddi fod yn addas ar gyfer adran o tua 45 o gyfieithwyr proffesiynol a staff gweinyddol, sy'n gweithio mewn sawl lleoliad ledled Cymru gan gynnwys gartref, yn ogystal ag ecosystem o gontractwyr cyfieithu allanol sy'n ategu'r tîm hwn.Mae cof cyfieithu wedi bod yn rhan annatod o systemau a dulliau gwaith y GC ers rhai blynyddoedd. Nid yw'r system bresennol wedi gallu addasu'n llawn i ofynion diweddar y GC ac mae ei pherfformiad yn anghyson ar lwyfan TGCh Llywodraeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun cyfieithwyr sy'n gweithio gartref. Y nod yw archwilio'r manteision a gynigir gan system amgen a fyddai'n gwella gwydnwch y Gwasanaeth Cyfieithu, a chael y system honno wedi'i sefydlu ac yn gwbl weithredol cyn diwedd blwyddyn ariannol 2020-2021.Dyma ofynion hanfodol y system:-System cof cyfieithu, a fydd yn caniatáu ar gyfer mewngludo data cyfredol y GC, ac a fydd yn cynnig cyfieithiadau yn seiliedig ar (i) cofau cyfieithu'r sefydliad a (ii) cyfieithu peirianyddol o ffynhonnell ddiogel (Microsoft Translator drwy Azure ar hyn o bryd), ynghyd â thermau perthnasol o gronfeydd termau'r sefydliad-System Rheoli Terminoleg, a fydd yn (i) caniatáu i ddata cyfredol y GC gael eu mewnforio; (ii) gweithio ochr yn ochr â'r system cof cyfieithu i gynnig termau cyfatebol yng nghyd-destun y cyfieithiad; (iii) rheoli'r gwaith o ychwanegu, adolygu, cyfuno a dileu data terminolegol; a (iv) allforio data ar gyfer cronfa derminoleg ar lein y GC, TermCymru, a gynhelir ar wefan Llywodraeth Cymru. Sylwer nad oes angen gallu darparu rhyngwyneb cyhoeddus ar wahân ar gyfer y gronfa dermau o dan y contract hwn.Dyma'r gofynion dymunol:-Llif gwaith terminoleg, a fydd yn rheoli ac yn cofnodi prosesau ymchwil, adolygu a chymeradwyo hyblyg ar gyfer termau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes-Llif gwaith cyfieithu a fydd yn caniatáu i waith cyfieithu gael ei ddirprwyo i aelodau'r tîm mewnol ac i gyflenwyr allanol, yn ogystal â chaniatáu iddynt ddefnyddio storfa'r GC o gofau cyfieithu a chronfeydd data terminolegol, er mwyn sicrhau bod y llif gwaith cyfan mor effeithiol ag y bo modd ac er mwyn lleihau costau cyfieithu allanol-Y gallu i newid iaith y rhyngwyneb rhwng Cymraeg a Saesneg yn unol â dewis y defnyddiwr.NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=105596 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Timeline

Published Date :

11th Nov 2020 4 years ago

Deadline :

N/A

Contract Start :

N/A

Contract End :

N/A

Tender Regions

Let’s Get you Started ✍

Get to see all tender details more briefly

Already have an account ?

Workflows

Status :

Open

Assign to :

Tender Progress :

0%

Details

Notice Type :

Open opportunity

Tender Identifier :

IT-378-246-T: 2024 - 001

TenderBase ID :

310724019

Low Value :

£100K

High Value :

£1000K

Region :

North Region

Attachments :

Buyer Information

Address :

Liverpool Merseyside , Merseyside , L13 0BQ

Website :

N/A

Procurement Contact

Name :

Tina Smith

Designation :

Chief Executive Officer

Phone :

0151 252 3243

Email :

tina.smith@shared-ed.ac.uk

Possible Competitors

1 Possible Competitors