Closed

Ymchwil ar agweddau myfyrwyr israddedig tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Descriptions

Mae’r contract hwn ar gyfer comisiynu ymchwil i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ganfod darlun manwl o agweddau myfyrwyr israddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn astudio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ond ddim yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg), yn ogystal ag agweddau a chanfyddiadau myfyrwyr sy’n astudio tu allan i Gymru tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau addas i lunio adroddiad sy’n ystyried agweddau a chanfyddiadau y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru tuag at:•Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol;•Effeithiolrwydd Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg wrth annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg;•Y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg e.e. rhestrau terminoleg a darpariaeth sgiliau iaith;•Yr hyn fyddai angen ei sicrhau er mwyn annog mwy o fyfyrwyr i ddilyn darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog;•Y math o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn.Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau tu allan i Gymru, hoffai’r Coleg ddeall:•Beth sy’n cymell myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau tu hwnt i’r ffin?•Beth yw eu canfyddiadau o sefydliadau addysg uwch Cymru?•Pa fath o ddylanwad caiff trefniadau cyllido myfyrwyr ar ddewisiadau myfyrwyr?•Pa fath o gynlluniau fyddai’n annog y myfyrwyr hyn i ddychwelyd i Gymru i astudio a/neu weithio ar ôl graddio?•Pa fath o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn ar gyfer eu denu yn ôl i astudio neu weithio yng Nghymru ar ôl graddio?Rhagwelir y bydd angen cynnal gwaith ymchwil ansoddol gyda myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ar ffurf grwpiau ffocws ar-lein a/neu gyfweliadau ar-lein neu dros y ffôn yn ôl pob tebyg. Bydd angen i’r ymchwil adlewyrchu profiadau myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg ac yn dod o gefndiroedd gwahanol gan gynnwys myfyrwyr sy’n astudio amrediad o bynciau mewn nifer o sefydliadau gwahanol, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.Ceir rhagor o fanylion yn y ddogfen gwybodaeth ychwanegol.NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=118758 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Timeline

Published Date :

15th Feb 2022 3 years ago

Deadline :

9th Mar 2022 3 years ago

Contract Start :

N/A

Contract End :

N/A

Tender Regions

Let’s Get you Started ✍

Get to see all tender details more briefly

Already have an account ?

Workflows

Status :

Closed

Assign to :

Tender Progress :

0%

Details

Notice Type :

Open opportunity

Tender Identifier :

IT-378-246-T: 2024 - 001

TenderBase ID :

310724019

Low Value :

£100K

High Value :

£1000K

Region :

North Region

Attachments :

Buyer Information

Address :

Liverpool Merseyside , Merseyside , L13 0BQ

Website :

N/A

Procurement Contact

Name :

Tina Smith

Designation :

Chief Executive Officer

Phone :

0151 252 3243

Email :

tina.smith@shared-ed.ac.uk

Possible Competitors

1 Possible Competitors