Awarded
Ymchwil Sectorau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith
Descriptions
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dymuno comisynu cwmni neu unigolyn allanol i gynnal ymchwil ymysg myfyrwyr yn y sectorau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae’r fanyleb hon yn nodi’r hyn sy’n ofynnol wrth gyflawni’r gwaith, ynghyd a’r ffrâm weithredu ar gyfer yr ymchwil.Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol [ ‘y Coleg’] yn 2011 fel cwmni cyfyngedig trwy warant, sydd hefyd yn elusen gofrestredig. Ers ei sefydlu, mae’r Coleg yn cynllunio a chefnogi darpariaeth Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ar sail strategol ar draws prifysgolion Cymru. Yn dilyn adolygiad o weithgareddau’r Coleg yn 2016/17 mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Coleg ymestyn ei weithgareddau i’r sector ôl-16, yn cwmpasu Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith. Nod y Coleg wrth gydweithio gyda darparwyr yw sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr, myfyrwyr a hyfforddeion yng Nghymru.Gellir gweld mwy am y Coleg ar ein gwefan, www.colegcymraeg.ac.uk.Ers 1 Ebrill 2017 mae’r Coleg wedi ei gyllido’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn galluogi’r Coleg i chwarae rhan greiddiol wrth ddatblygu a gweithredu Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru , a lansiwyd yn 2017.Bydd y sector addysg yn allweddol os yw targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 i gael ei wireddu. Bydd angen, er enghraifft, trawsnewid y sefyllfa yn y sector ôl-16, yn enwedig mewn perthynas â darparu addysg alwedigaethol a phrentisiaethau i raddau llawer mwy helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn yr un modd, bydd cryfhau dilyniant ar draws sectorau, o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg uwch a thu hwnt, yn gynyddol bwysig, ac er mwyn gwneud hynny bydd yn allweddol sicrhau gweithlu digonol i addysgu ar bob lefel drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.Er mwyn llwyddo i ymateb i’r her o ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn sylweddol yn y meysydd Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith, mae angen sicrhau bod y datblygiadau arfaethedig yn ateb gofynion y dysgwyr.Nodau’r YmchwilNod yr ymchwil yw canfod darlun manwl o agweddau dysgwyr mewn colegau Addysg Bellach a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith tuag at dderbyn addysg yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.Bwriedir defnyddio’r wybodaeth hon fel sail i gynllunio datblygiad darpariaeth Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau hyn. Bydd y wybodaeth a gesglir hefyd yn sail i ymgyrchoedd marchnata a fydd yn ceisio denu dysgwyr i elwa ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg / dwyieithog.Disgwylir y bydd yr ymchwil a gomisiynir yn ansoddol yn bennaf ac yn adeiladu ar y gwaith ymchwil (meintiol yn bennaf) sydd eisoes wedi’i gyflawni yn y maes hwn.Nodir isod yr hyn sy’n ofynnol ar gyfer cynnal ac adrodd ar yr ymchwil, a rhoddir awgrymiadau ynglyn â’r fethodoleg y dylid ei dilyn.Amcanion a chwestiynau ymchwilAmcan yr ymchwil yw datblygu dealltwriaeth fanwl o agweddau dysgwyr yn y sectorau Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith tuag at dderbyn addysg yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.Disgwylir y bydd yr ymchwil yn archwilio’r ffactorau canlynol:•Yr hyn sy’n dylanwadu ar ddysgwyr wrth iddynt benderfynu ym mha iaith i dderbyn eu haddysg•Rhesymau dros ddilyn neu beidio dilyn darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog•Canfyddiadau o fanteision ac anfanteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog•Canfyddiadau o bwysigrwydd y Gymraeg fel sgil yn y gweithle•Canfyddiadau o bwysigrwydd y Gymraeg fel iaith gymdeithasol•Beth byddai angen ei sicrhau er mwyn annog mwy o ddysgwyr i ddilyn darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithogynghyd ag unrhyw gwestiynau ymchwil eraill perthnasol sy’n codi yn ystod y trafodaethau cychwynnol gyda’r contractwr llwyddiannus.Mae gwaith ymchwil (meintiol yn bennaf) eisoes wedi’i gyflawni yn y maes hwn: ymchwil a gyflawnwyd fel rhan o arolygon dysgwyr cenedlaethol (gwybodaeth ystadegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru), gwaith ymchwil a wnaethpwyd ymysg disgyblion ysgol sy’n ystyried cyrsiau mewn colegau Addysg Bellach (gwaith ymchwil doethuriaeth) a gwaith perthnasol a gyflawnwyd gyda darpar fyfyrwyr mewn sector arall (gwaith ymchwil ym maes Addysg Uwch gan Davies & Trystan). Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu crynodeb o’r ymchwil hwn i’r contractwr llwyddiannus.Bydd y contractwr llwyddiannus yn llunio a gweithredu cynllun ymchwil sy’n caniatáu archwilio’r ffactorau cymhleth sy’n dylanwadu ar ddewisiadau ieithyddol myfyrwyr ôl-16, gan gydnabod fod rhai o’r ffactorau yma yn sensitif ac yn ymwneud â materion megis sgiliau a hunaniaeth dysgwyr unigol.Yn ogystal, bydd y contractwr llwyddiannus yn llunio a gweithredu cynllun ymchwil penodol i ganfod agweddau hyfforddeion Dysgu Seiliedig ar Waith – carfan o ddysgwyr sydd yn fwy gwasgaredig o ran lleoliadau astudio (gan fod nifer fawr ohonynt yn astudio yn y gweithle).Anogir y sawl sy’n cyflwyno pris i gynnig elfennau eraill a fyddai, yn eu barn hwy, yn cyfoethogi’r gwaith.Bydd yr adroddiad terfynol yn crynhoi agweddau dysgwyr ac yn gwneud argymhellion ar lefel uchel am ddatblygiad darpariaeth a datblygiad ymgyrch farchnata.MethodolegEr mwyn ymdrin â’r gofynion uchod bydd gofyn i’r contractwr lunio a gweithredu cynllun ymchwil pwrpasol.Rhagwelir y bydd angen cynnal gwaith ymchwil ansoddol gyda dysgwyr, ar ffurf grwpiau ffocws yn ôl pob tebyg. Bydd angen i’r grwpiau hyn adlewyrchu profiadau dysgwyr mewn ardaloedd daearyddol wahanol sy’n astudio amrediad o bynciau gwahanol a chyda gwahanol lefelau o sgiliau ieithyddol.Rhagwelir y bydd angen cynnal o leiaf 8 grwp ffocws gyda dysgwyr mewn colegau Addysg Bellach a darn penodol o ymchwil gyda hyfforddeion Dysgu Seiliedig ar Waith.Bydd y fethodoleg yn cael ei chytuno'n fanwl yn ystod cam cychwynnol y prosiect ar sail y cynigion a gyflwynwyd yn y tendr llwyddiannusNid yw’r fanyleb hon yn nodi gofynion llawn o ran y technegau ymchwil i’w defnyddio ar gyfer yr ymchwil. Mae'n awgrymu rhai o’r dulliau a ragwelir ar gyfer y gwaith, ond rydym yn annog y sawl sy’n tendro i adeiladu arnynt er mwyn sicrhau llwyddiant y gwaith oddi fewn y gyllideb a’r amserlen sydd ar gael.Disgwylir i’r sawl sy’n tendro esbonio eu dulliau arfaethedig ar gyfer samplu a recriwtio cyfranogwyr ar gyfer yr astudiaeth.Dylai cyflenwyr sicrhau bod y dulliau ymchwil a ddewisir yn addas i ofynion y fanyleb, a dylent esbonio’r rhesymeg dros ddewis y technegau arfaethedig.Disgwylir i’r sawl sy’n tendro esbonio sut y byddant yn sicrhau moeseg ymchwil wrth gwblhau’r gwaith.Bydd y tîm llwyddiannus yn cynnwys unigolion sydd wedi profi’u harbenigedd yn y meysydd canlynol: ymchwil ym maes addysg ol-16; ymchwil ansoddol; ymchwil ar agweddau myfyrwyr. Dylid manylu ar pa gyfraniad bydd gwahanol unigolion sy’n rhan o’r tîm ymchwil yn eu gwneud i’r gwaith. Bydd disgwyl i bob aelod o’r tîm ymchwil fod yn rhugl ddwyieithog gan y disgwylir bydd y mwyafrif o’r gwaith ymchwil yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd yr adroddiadau yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, yn unol â gofynion y Coleg.Mae gofyn i’r sawl sy’n cyflwyno tendr nodi yn eu cais sut y maent yn bwriadu ymgymryd â holl elfennau sicrhau ansawdd y prosiect.Gofynion / allbynnauBydd disgwyl i’r contractwr llwyddiannus gyflawni’r canlynol:•cyfarfod cychwynnol / cyfarfod i ddyfarnu’r contract•llunio cynllun ymchwil•adroddiadau diweddaru rheolaidd•cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng y contractwr a swyddogion y Coleg•adroddiad drafft•adroddiad terfynol yn sgil derbyn adborth gan y Coleg•adroddiad ymchwil crynodebol dwyieithog heb fod yn llai na 10 tudalen A4 ond heb fod yn hwy na 20 tudalen mewn un iaith.Yn ogystal, bydd modd i’r contractwr llwyddiannus ddarparu manylion pellach am fethodoleg a manylion technegol yr ymchwil mewn dogfen hwy yn y Gymraeg.Bydd angen i’r contractwr gyflwyno’r canfyddiadau cychwynnol mewn cyfarfod gyda swyddogion y Coleg a/neu’r Grwp Cynllunio Addysg Bellach / Dysgu Seiliedig ar Waith.Y contractwr sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd pob allbwn (Cymraeg a Saesneg) cyn ei gyflwyno.Dylid cyfeirio at y Fanyleb atodol am fanylion llawn y Gwahoddiad i Dendro hwn, yn cynnwys y meini prawf gwerthuso.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Tender Awarded :
Awarded date :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
80000000 - Education and training services
80400000 - Adult and other education services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors