Awarded
Cytundeb Datblygu Ap Dysgu Gyda Cyw/Dysgu Gyda Cyw App Development Agreement
Descriptions
Mae S4C yn edrych i apwyntio cwmni i ddatblygu a chyfleu ap yn yr iaith Gymraeg gyda’r teitl ‘Dysgu Gyda Cyw’.Mae brand ‘Cyw’ S4C yn adnabyddus i blant Cymru ac mae apiau dysgu fel Cyfri Gyda Cyw a Cyw a’r Wyddor wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Ond nawr rydym yn edrych am gwmni all gynhyrchu ap newydd fydd yn cymryd lle yr apiau hyn ac yn cynnwys o leiaf pedwar o gêmau addysg i blant bach mewn ffordd wreiddiol, lliwgar a hwyl a fydd yn eu denu i ddod nôl at yr ap dro ar ôl tro.Gofynion GolygyddolMae S4C yn awyddus i’r ap fod ar ffurf modylol (modular) (yn debyg i ap chwarae Byd Cyw) er mwyn galluogi S4C i ddiweddaru’r gêmau heb newid yr ap craidd. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod modd ychwanegu gêmau newydd dros gyfnod o amser i’r ap er mwyn cynnal diddordeb plant a rhieni. Dylai’r fframwaith modylol alluogi S4C i gomisiynu ac ychwanegu gêmau newydd at yr ap gan ddarparwyr eraill ac o dan frandiau eraill S4C ar wahân i ‘Cyw’.Bydd disgwyl i’r gêmau fod wedi eu creu gyda sylfaen gref mewn addysg blynyddoedd cynnar, ac yn addas ar gyfer oedran 2-6. Bydd disgwyl i’r cwmni allu dangos bod ganddynt arbenigedd neu eu bod am gydweithio gydag arbenigwyr addysg blynyddoedd cynnar. Dylid nodi fodd bynnag bydd y pwyslais ar wneud y profiad yn llawn hwyl i’r defnyddiwr. Nid oes gofyniad penodol am yr uchafswm o gemau, ond bydd creu ap cyfoethog y gall plant droi ato dro ar ôl tro yn bwysig, gan sicrhau y bydd yr ap yn cynnwys o leiaf pedwar gêm.Dylai ymgeiswyr ddarparu cynllun cyhoeddi ar hyd cyfnod o flwyddyn ar gyfer yr ap, gan nodi os oes bwriad rhyddhau’r gemau i gyd ar yr un pryd neu ar adegau gwahanol.Mae’n bosib y bydd S4C yn datblygu’r ap llwyddiannus ymhellach er enghraifft trwy leoleiddio yr ap i ieithoedd eraill. Dylai ymgeiswyr felly sicrhau y caiff yr ap ei greu mewn modd fyddai’n galluogi lleoleiddio i ieithoedd eraill yn hawdd. Wrth gynllunio hyn dylai ymgeiswyr ystyried yr angen posib i’r ap fedru dygymod â gwyddorau gwahanol a nodau arbennig. Noder bod costau unrhyw addasiadau graffeg ayyb ar gyfer lleoleiddiad y tu allan i gyllideb y cais am bris hwn.Bydd angen i’r ap gydymffurfio gyda Chanllawiau Brand Cyw (sydd ar gael ar wefan gynhyrchu S4C yma).Cysylltiadau i apiau a gwasanaethau presennol CywGwefan Cyw: https://cyw.cymru/Ap Byd Cyw:•iOS https://apps.apple.com/gb/app/byd-cyw/id1208535944•Android https://play.google.com/store/apps/details?id=com.thud.bydcyw&hl=en_IE•Kindle Fire https://www.amazon.co.uk/S4C-Byd-Cyw/dp/B07F75Q2DBGofynion TechnegolBydd angen i’r ap fod yn addas ar gyfer llwyfannau iOS ac Android.Bydd angen i fframwaith feddalwedd yr ap alluogi ychwanegu a thynnu gêmau yn effeithiol.Bydd angen i’r ap fod yn barod ar gyfer lleoleiddio i ieithoedd eraill.Dylid rhoi ystyriaeth priodol i faint yr ap o ran cof dyfeisiadau, gan geisio sicrhau’r maint lleiaf posib.Ni ddylai’r ap gasglu data defnyddwyr oni bai am fanylion defnydd sylfaenol dienw trwy, er enghraifft Google Analytics, er mwyn gallu monitro a deall defnydd gemau penodol.Gofynion CyfleuBydd angen sicrhau bod pob agwedd o’r ap (gan gynnwys pob gêm) yn barod i’w lansio erbyn Chwefror 2020.Gofynion YchwanegolBydd disgwyl i’r darparwr llwyddiannus:•Aseinio’r hawlfraint a’r holl hawliau eraill yn yr ap, unrhyw feddalwedd a ddatblygir yn arbennig ar gyfer ei ddefnyddio yn yr ap a chynnyrch gwasanaethau’r cwmni i S4C;•Gynnal a chadw’r ap am gyfnod o 2 flynedd;•Gadw mewn cysylltiad rheolaidd ac effeithiol gydag aelodau enwebedig o staff S4C;•Reoli pob agwedd o gynllunio’r gwasanaeth;•Cydymffurfio â chyfreithiau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol (gweler y Nodiadau Cyfreithiol); ac•Ymrwymo staff addas i weithio ar bob agwedd o’r cytundeb, gan gynnwys staff iaith Gymraeg.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Tender Awarded :
Awarded date :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
72262000 - Software development services
72261000 - Software support services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors