Closed
Darparu Arolwg Boddhad Tenantiaid
Descriptions
Mae'r Cyngor yn gwahodd cyflenwyr addas i gynnal arolwg boddhad tenantiaid cynhwysfawr ar gyfer Cartrefi Caerffili (rhan o'r gwasanaethau tai sy'n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili). Cartrefi Caerffili yw adran dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (y "Cyngor"). Mae'r Cyngor yng nghanol De Cymru ac mae ganddo stoc gyfredol o 10,662 o dai Cyngor gan gynnwys tai anghenion cyffredinol, tai dynodedig i bobl hŷn a thai lloches.Mae data ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi bod ar gael yn y parth cyhoeddus ers peth amser gyda gofyniad i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gynhyrchu a meincnodi eu data eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiadau cymharol.Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl, fel rhan o'i chanllawiau ar Bolisi Rhent a'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr, fod gan awdurdodau lleol ddata boddhad sy'n ymdrin â rhai cwestiynau craidd y mae modd eu defnyddio i feincnodi perfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill. Daw'r cwestiynau craidd o ddata arolwg HouseMark STAR. Cyhoeddwyd y canlyniadau meincnodi cyntaf sy'n cyfuno canlyniadau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac Awdurdodau Lleol yn 2022.Cynhaliwyd arolwg boddhad tenantiaid cynhwysfawr ym mis Medi/Hydref 2021. Y disgwyl yw y bydd awdurdodau lleol yn adnewyddu data arolwg boddhad bob dwy flynedd. Mae Cartrefi Caerffili felly yn bwriadu cynnal arolwg pellach yn 2023.Gellir dod o hyd i'r manylion llawn yn y NODYN ITT:I gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol, ewch i wefan GwerthwchiGymru ar https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=132044 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Timeline
Published Date :
Deadline :
Contract Start :
Contract End :
Tender Regions
CPV Codes
79311000 - Survey services
Workflows
Status :
Assign to :
Tender Progress :
Details
Notice Type :
Tender Identifier :
TenderBase ID :
Low Value :
High Value :
Region :
Attachments :
Buyer Information
Address :
Website :
Procurement Contact
Name :
Designation :
Phone :
Email :
Possible Competitors
1 Possible Competitors