Closed

Request for an Expression of Interest for Electoral Commission Board Effectiveness Review 2023/24

Descriptions

NODER: Nid oes angen ymateb tendr ffurfiol i'r cais hwn am Ddatganiad o Ddiddordeb, naill ai fel cynnig Technegol neu fel pris a gyflwynir.Y CYFAN SYDD ANGEN I CHI EI WNEUD YW CADARNHAU BOD DIDDORDEB GENNYCH MEWN CAEL EICH YSTYRIED AR GYFER UNRHYW WAHODDIAD DILYNOL I DENDRO DRWY DDEFNYDDIO'R MANYLION CYSWLLT I GWSMERIAID AR DUDALEN 6, erbyn 18/05/2023.Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneudY Comisiwn yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.Mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys deg comisiynydd a gaiff eu henwebu â buddiannau gwahanol sy'n cynnwys cenhedloedd y DU ac enwebiadau gan bleidiau gwleidyddol. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ddeg gwaith y flwyddyn, a bydd y Tîm Gweithredol yn bresennol yn ogystal â Chynghorydd Annibynnol i'r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd y Bwrdd yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau anffurfiol ledled y wlad er mwyn canolbwyntio'n fanwl ar faterion perthnasol.Mae gan y Bwrdd ddau bwyllgor, sef y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol, a chaiff y ddau eu cadeirio gan Gomisiynydd.Mae'r Tîm Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr a phedwar Cyfarwyddwr, yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol (Ysgrifennydd y Bwrdd), a fydd yn bresennol.Cyfnod yr adolygiad hwnBwriedir dechrau'r adolygiad ddechrau'r haf yn 2023, gydag adroddiad interim ym mis Hydref, a'r adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2024Sail yr Adolygiad hwnMae gan y Comisiwn Etholiadol ymrwymiad parhaus i wella ac, fel rhan o hyn, byddwn yn ymgymryd ag adolygiad mewnol o berfformiad bob blwyddyn yn ogystal ag archwiliad o sgiliau a buddiannau comisiynwyr. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni nodi meysydd gwella.Cwmpas y gwaithEr mwyn galluogi'r Comisiwn i feithrin gwell dealltwriaeth o'n cryfderau, ein gwendidau a sut y gallwn weithio'n well, mae'r Bwrdd wedi cytuno y dylid cynnal adolygiad allanol annibynnol o effeithiolrwydd y Bwrdd.Mae gan y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr weledigaeth “un tîm” ar gyfer y Comisiwn i gynnwys y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a'r staff.Rhagwelwn y bydd yr adolygiad o effeithiolrwydd hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:•Dealltwriaeth y Bwrdd o'r sefydliad a'i randdeiliaid amrywiol, ei gyfeiriad strategol a'i amgylchedd gweithredol•Gallu'r Bwrdd i bennu amcanion strategol clir a mesur perfformiad y sefydliad yn erbyn yr amcanion hynny, gan gynnwys gallu'r Bwrdd i sganio'r gorwel a rheoli risg, gallu'r Bwrdd i gydweithio ac fel un tîm gyda'r Tîm Gweithredol a'r staff, gan gynnwys gallu'r Bwrdd i gael y gorau o'r Tîm Gweithredol a gallu'r Tîm Gweithredol i gefnogi'r Bwrdd yn effeithiol•Ymddygiadau Comisiynwyr wrth fynegi safbwyntiau a gwrando ar safbwyntiau eraill•Ymrwymiad Comisiynwyr i fudd pennaf y sefydliad, megis ei ymddygiadau a'i werthoedd craiddMethodoleg y gwaith adolyguDisgwylir y bydd y fethodoleg ar gyfer adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd yn cynnwys y canlynol:•Yn amodol ar ofynion peidio â datgelu: Archwilio dogfennaeth llywodraethu, cofnodion ac adroddiadau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau.•Yn amodol ar ofynion peidio â datgelu: Arsylwi ar weithrediadau cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn a'r pwyllgorau.•Cyfweliadau (grŵp a/neu unigol) ag aelodau'r Bwrdd, aelodau'r Tîm Gweithredol a staff ehangach y ComisiwnGweithgarwch arall y cytunir ei fod yn angenrheidiol er mwyn llunio asesiad ystyrlonStrwythur adroddiadauMae'r Bwrdd yn disgwyl y bydd adroddiad mewnol interim ar yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei ddarparu i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Bydd hyn yn cynnig cyfle i roi adborth i awduron yr adroddiad ac eglurhad pan fo angen.Dylai'r adroddiad interim gynnwys y prif adrannau canlynol:•Crynodeb Gweithredol: Bydd disgwyl i'r adran hon roi crynodeb clir a hygyrch o'r canfyddiadau a'r argymhellion•Ffeithiau: Bydd disgwyl i'r adran hon roi data ar bob agwedd fel y disgrifir yng Nghwmpas y Gwaith•Dadansoddiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi dadansoddiad manwl o'r data a gasglwyd a dangos cydberthnasau rhwng y setiau data amrywiol•Asesiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi trosolwg o ba brosesau sy'n gweithio'n dda a lle y gellir datblygu; dylai'r asesiad fod yn seiliedig ar yr adrannau ‘Ffeithiau’ a ‘Dadansoddiad’ a chyfeirio atynt•Argymhellion: Bydd disgwyl i'r adroddiad roi argymhellion cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol (CAMPUS) ar ffyrdd o wella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn•Yr Adroddiad Terfynol fydd cynnyrch terfynol yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd, a fydd yn cynnwys canfyddiadau a dadansoddiad yr Adroddiad Asesu gan ddarparu argymhellion CAMPUS•Crynodeb Gweithredol: Bydd disgwyl i'r adran hon roi crynodeb clir a hawdd ei ddeall o'r canfyddiadau a'r argymhellion•Ffeithiau: Bydd disgwyl i'r adran hon roi data ar bob agwedd a ddisgrifir yn yr adran Cwmpas y Gwaith uchod•Dadansoddiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi dadansoddiad manwl o'r data a gasglwyd, a dangos cydberthnasau rhwng y setiau data amrywiol a chyfeirio'n ôl at yr adroddiad interim yn ôl y gofyn•Asesiad: Rhaid i'r adran hon roi trosolwg o ba agweddau ar y Bwrdd sy'n gweithio'n dda, o fewn y weledigaeth un tîm, a lle gellir datblygu Dylai'r asesiad fod yn seiliedig ar yr adrannau ‘Ffeithiau’ a ‘Dadansoddiad’ a chyfeirio'n ôl at yr adroddiad interim yn ôl y gofyn•Argymhellion: Bydd disgwyl i'r adroddiad gynnig argymhellion CAMPUS ar ffyrdd o wella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn, o fewn y weledigaeth o ddatblygu un tîmAmserlen y ProsiectPennwyd y dyddiadau canlynol fel cerrig milltir posibl ar gyfer amserlen y prosiect. Gall y Comisiwn addasu neu newid yr amserlen hon ar unrhyw adeg, fel y bo angen.DigwyddiadDyddiadArsylwi ar gyfarfod Bwrdd y Comisiwn26 Medi 2023Arsylwi ar gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg25 Medi 2023Arsylwi ar gyfarfod y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol21 Medi 2023I'w gyflawniDyddiadYr Adroddiad InterimHydref 2023Yr Adroddiad TerfynolMawrth 2024Canllawiau ar ddarparu Datganiad o DdiddordebNoder y gall y meini prawf uchod newid wrth i unrhyw Wahoddiad i Dendro posibl gael ei ddatblygu.Hawl i ganslo neu amrywio'r Datganiad o Ddiddordeb hwnCeidw'r Awdurdod yr hawl i wneud y canlynol:-Canslo'r Datganiad o Ddiddordeb hwn, neu ran ohono, ar unrhyw gam ac ar unrhyw adeg;-Diwygio'r Datganiad o Ddiddordeb, rhoi eglurhad, ychwanegu ato neu dynnu'r datganiad cyfan, neu unrhyw ran ohono, yn ôl ar unrhyw adeg.Manylion cyswllt i gwsmeriaid ar gyfer y Datganiad o DdiddordebEnw:Paul Stringer, Uwch-gynghorydd CaffaelRhif ffôn:020 7271 0698Cyfeiriad e-bost:Procurement@electoralcommission.org.ukNOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=131323.

Timeline

Published Date :

4th May 2023 1 year ago

Deadline :

18th May 2023 1 year ago

Contract Start :

N/A

Contract End :

N/A

Tender Regions

Let’s Get you Started ✍

Get to see all tender details more briefly

Already have an account ?

Workflows

Status :

Closed

Assign to :

Tender Progress :

0%

Details

Notice Type :

Open opportunity

Tender Identifier :

IT-378-246-T: 2024 - 001

TenderBase ID :

310724019

Low Value :

£100K

High Value :

£1000K

Region :

North Region

Attachments :

Buyer Information

Address :

Liverpool Merseyside , Merseyside , L13 0BQ

Website :

N/A

Procurement Contact

Name :

Tina Smith

Designation :

Chief Executive Officer

Phone :

0151 252 3243

Email :

tina.smith@shared-ed.ac.uk

Possible Competitors

1 Possible Competitors